*** Rheoli Risg: y persbectif cyfrifo a TAW ***

24 Gorff 2009

Bydd WCVA, mewn partneriaeth a chyfrifwyr Watts Gregory LLP, yn cyflwyno seminar hanner diwrnod: Rheoli Risg: y persbectif cyfrifo a TAW, i'w gynnal yn Nhy Baltic ar Hydref 12ain. Bydd y seminar yn edrych ar natur risg, ar y mannau risg allweddol mewn cyllid a chyfrifo, yn rhoi ffocws arbennig i adnabod risgiau TAW, ac yn cynnig strategaethau a systemau ar gyfer eu rheoli. Mae mwy o wybodaeth ar wefan WCVA, neu i archebu lle yn uniongyrchol, cysylltwch â Mel Lloyd ar 02920 431724 neu eventsadmin@wcva.org.uk