A - F
Cronfeydd wrth gefn
Does dim diffiniad cyfreithiol o 'gronfeydd wrth gefn' mewn perthynas ag elusennau a dim rheol gyfreithiol benodol ar faint neu gyfran cronfeydd incwm elusen y gellir eu dal fel cronfa wrth gefn. At ei gilydd, mae’r Comisiwn Elusennau’n defnyddio’r term i ddisgrifio’r rhan honno o gronfeydd incwm elusen sydd ar gael yn rhwydd at ei dibenion cyffredinol (digyfyngiad). Felly, y ‘Cronfeydd Wrth Gefn’ yw'r adnoddau sydd gan elusen neu y gall eu cael i wario, ar rai neu'r cyfan o ddibenion yr elusen, unwaith i'r elusen gyflawni'i hymrwymiadau ac ymgymryd â gwariant arall a gynlluniwyd. Yn fwy penodol, incwm a ddaw ar gael i'r elusen ac sydd i'w wario yn ôl doethineb yr ymddiriedolwyr er mwyn cyflawni amcanion yr elusen ond nad yw wedi ei wario, ei ymrwymo na'i ddynodi eto.
Mae’n bwysig hefyd bod yn ymwybodol fod yr hyn y mae cyfrifyddion yn ei olygu wrth y term yn wahanol i ddiffiniad y Comisiwn Elusennau. Ym maes cyfrifyddu yn aml, defnyddir y term ‘cronfeydd wrth gefn’ yn eang iawn ac mae’n debygol o gynnwys cronfeydd sy’n cael eu heithrio gan arweiniad perthnasol y Comisiwn Elusennau. Mae’r Comisiwn yn cyfeirio at gronfeydd wrth gefn fel cronfeydd ‘rhydd’, ‘cyffredinol’ neu ‘digyfyngiad’. Felly, nid yw’r diffiniad hwn o gronfeydd wrth gefn yn cynnwys:
- gwaddol parhaol;
- gwaddol i’w wario;
- cronfeydd cyfyngedig;
- cronfeydd dynodedig; a
- cronfeydd incwm y gellir eu defnyddio dim ond drwy gael gwared ar asedau sefydlog sy’n cael eu dal at ddefnydd yr elusen
Gellir dadlau y dylai gwaddol i’w wario a chronfeydd incwm dynodedig gael eu hystyried yn gronfeydd wrth gefn. Y ddadl yn y ddau achos yw bod gan yr ymddiriedolwyr yr hawl i ystyried bod y cronfeydd hynny, os dewisant, ar gael ar gyfer gwariant cyffredinol. Does dim cyfyngiadau cyfreithiol yn atal ymddiriedolwyr rhag trin y ddau fath o gronfa fel cronfeydd cyffredinol, rhydd. Ond mae rhesymau ymarferol yn cael eu nodi yn yr arweiniad pam na ddylai'r cronfeydd fel arfer gael eu hystyried yn rhai rhydd yn y lle cyntaf.
Mewn cyferbyniad, ni ellir byth ystyried cronfeydd cyfyngedig yn gronfeydd cyffredinol ac nid ydynt yn dod o fewn cwmpas y term cronfa wrth gefn fel y caiff ei ddefnyddio gan y Comisiwn Elusennau.
Ni ddylai’r cronfeydd wrth gefn fod yn ormodol ond mae angen iddynt fod yn ddigonol i ddiogelu’r elusen, o ran amrywiadau mewn llifau incwm a hefyd o ran y gwariant neu’r rhwymedigaethau a ragwelir.
Mae gofynion cyfrifyddu penodol yng nghyswllt cofnodi cronfeydd wrth gefn a chronfeydd eraill. Nodir y rhain yn SORP 2005.
Mae’r Comisiwn Elusennau’n rhoi arweiniad helaeth ar gronfeydd wrth gefn elusennau yn eu cyhoeddiadau: Charities’ Reserves (CC19) a Charity Income Reserves (OG43)
Cyfraith ymddiriedolaeth
Datblygodd y cysyniad o ymddiriedolaeth o’r adain o’r gyfraith a elwir yn Ecwiti. Yn ystod datblygiad cynnar cyfraith Lloegr, roedd y Llysoedd yn ceisio gorfodi hawliau moesol nad oedd darpariaeth ar eu cyfer mewn statud, contract nac wedi'i bennu drwy weithred. Perthynas yw ymddiriedolaeth a gydnabyddir gan Ecwiti sy'n codi pan roddir eiddo yn nwylo unigolyn neu unigolion a elwir yn ymddiriedolwyr, ac y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr hynny ei ddal er budd pobl eraill a elwir yn fuddiolwyr. Fel arfer bydd buddiannau'r buddiolwyr yn cael eu nodi yn yr offeryn a greodd yr ymddiriedolaeth ond gallant fod ymhlyg neu wedi’u gorfodi gan y gyfraith. Rhennir cyfraith ymddiriedolaeth rhwng ymddiriedolaethau preifat a chyhoeddus neu elusennol. Mae ymddiriedolaethau cyhoeddus yn gyfyngedig iawn o ran eu defnydd ac maent yn ymwneud â gwireddu diben penodol, er enghraifft, cyflawni amcanion elusen. Felly mae cyfraith elusennau’n un o ganghennau cyfraith ymddiriedolaeth.
Rhennir ymddiriedolaethau preifat yn: ymddiriedolaethau datganedig (express), ymddiriedolaethau sy’n dychwel (resulting) ac ymddiriedolaethau dehongliadol (constructive). Mae is-adrannau pellach i’r olaf ond anaml iawn y mae ymddiriedolaethau preifat yn berthnasol i ymddiriedolwyr yn y sector elusennol.
Cymorth rhodd
Yng nghyllideb y Canghellor yn Ebrill 2000, cyflwynwyd rhai o gynlluniau gostyngiadau treth mwyaf hael y byd ar gyfer y trydydd sector. Cafwyd cynnydd sylweddol yn y gostyngiadau treth ar dreth incwm, y dreth etifeddu a threth gorfforaeth a darparwyd nifer o gyfleoedd sylweddol ar gyfer codi arian gan y trydydd sector.
Cynllun syml yw Cymorth Rhodd sy’n galluogi elusennau a Mudiadau Cymunedol Gwirfoddol i adennill treth ar y gyfradd sylfaenol ar roddion a dderbynnir gan roddwyr a chefnogwyr. I fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd, rhaid i roddwyr ddatgan eu bod wedi talu, neu y byddant yn talu digon o dreth incwm neu dreth enillion cyfalaf yn yr un flwyddyn ag y rhoesant y rhodd.
Mae defnyddio Cymorth Rhodd ar hyn o bryd yn codi gwerth rhoddion unigolion gan roddwyr sy’n talu treth 28.2% gan mai’r gyfradd dreth incwm sylfaenol ar hyn o bryd yw 22% (Gwerth Cymorth Rhodd = 22/78 x 100). Mae hyn yn golygu y gellir hawlio 28.2p am bob £1 a roddir. Felly mae angen i roddwyr sicrhau eu bod wedi talu'r dreth a hawlir yn ôl gan yr elusen (£0.28 am bob £1 a roddir).
I gofrestru eich mudiad ar gyfer hawlio Cymorth Rhodd yn ôl, bydd angen i’ch elusen neu’ch Mudiad Cymunedol Gwirfoddol gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM at ddibenion treth – mae hyn yn broses syml iawn:
- Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM i gofrestru at ddibenion treth ac i dderbyn cyfeirnod a phecyn cofrestru. Ffôn: 08453 02 02 03
- Paratowch ddatganiad Cymorth Rhodd ar gyfer eich rhoddwyr i gofnodi manylion y rhoddwr megis enw, cyfeiriad a gwerth y rhodd. Mae hwn hefyd yn gweithredu fel cofnod o gydsyniad ffurfiol sy’n caniatáu i chi hawlio Cymorth Rhodd ar eu rhodd.
- Hyrwyddwch Cymorth Rhodd ymysg eich rhoddwyr, gan bwysleisio na fydd defnyddio Cymorth Rhodd yn costio dim mwy iddynt.
- Gwnewch hawliadau bob hyn a hyn i Gyllid a Thollau EM i hawlio’r 28.2% o gyfanswm gwerth y rhoddion.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cymru’n Rhoi WCVA.
Dogfen lywodraethu
Y ddogfen lywodraethu sy’n amlinellu pwrpas y mudiad a'r ffordd y mae i gael ei redeg. Pennir ei ffurf gan y strwythur cyfreithiol a ddewiswyd ar gyfer y mudiad, a dyma’r rhai mwyaf cyffredin:
- Memorandwm ac Erthyglau Cwmni os yw'n gwmni neu’n gwmni budd cymunedol
- Dogfen Ymddiriedolaeth, Datganiad Ymddiriedolaeth neu Ewyllys hyd yn oed os yw’n ymddiriedolaeth
- Cyfansoddiad neu Reolau os yw’n gymdeithas anghorfforedig, neu
- Rheolau os yw’n gymdeithas ddiwydiannol a darbodus.
Bydd gan y ddogfen lywodraethu Gymal Amcanion sy’n nodi dibenion y mudiad a pharamedrau gweithgarwch y mudiad. Ni chaiff y rhai sy’n rhedeg y mudiad weithredu y tu allan i’r amcanion, a bydd y ddogfen lywodraethu hefyd yn cynnwys rhestr o bwerau sydd ar gael i'w defnyddio ar gyfer cyflawni'r amcanion - fel arfer bydd pwer cyffredinol ar gael sy'n caniatáu i unrhyw beth cyfreithiol gael ei wneud i hyrwyddo’r amcanion hefyd. Pennir ffurf y memorandwm a’r erthyglau, a Rheolau’r Cymdeithasu Diwydiannol a Darbodus, gan statud.
Yn ogystal â’r amcanion a’r cymalau pwerau, bydd y dogfennau hyn yn cynnwys yr holl weithdrefnau gweinyddol a'r rheolau sy'n ofynnol i redeg y mudiad. Byddant hefyd yn pennu cyfansoddiad a gweinyddiaeth y corff llywodraethu, yn ogystal â ffiniau eu pwerau a’u cyfrifoldebau. Bydd darpariaeth ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol os oes aelodau, yn ogystal â thelerau ar gyfer diddymu’r mudiad a dosbarthu’i asedau (os oes rhai).