S - Z
Ymddiriedolwr daliannol
Gellir ystyried yr ymddiriedolwyr hynny sy’n rhedeg yr elusen yn ymddiriedolwyr rheoli - ni ddylid drysu'r rhain gydag ymddiriedolwyr gwarchod neu ddaliannol. Mae gan gwmni elusennol bersonoliaeth gyfreithiol benodol ac, o'r herwydd, mae'n gallu dal eiddo a chreu contract yn ei enw ei hun. Nid dyma’r achos gydag ymddiriedolaethau elusennol a chymdeithasau anghorfforedig lle mae’n rhaid i ymddiriedolwyr unigol ymgymryd â’r rolau a’r trafodion hyn. Un rôl yn unig sydd gan ymddiriedolwyr daliannol, dal teitl eiddo ar ran ac ar gyfarwyddyd yr ymddiriedolwyr rheoli ac yn unol â'r ddogfen lywodraethu. Gall unigolion, corff corfforaethol neu’r Gwarcheidwad Swyddogol ymgymryd â’r rôl hon. Ond, yn wahanol i Ymddiriedolwyr Gwarchod (gweler isod) does dim rhaid iddynt weithredu yn unol â Deddf yr Ymddiriedolwr Gwladol 1906.
Os bydd ymddiriedolwr daliannol yn torri ymddiriedaeth drwy weithredu y tu allan i amodau’r cytundeb gyda’r elusen, neu drwy weithredu ar gyfarwyddiadau ymddiriedolwyr yr elusen sy’n arwain at dorri ymddiriedaeth, yr ymddiriedolwr daliannol fydd yn atebol. Felly, mae’n hollbwysig fod ymddiriedolwr daliannol yn gwbl ymwybodol pam fod yr eiddo'n cael ei ddal ac unrhyw amodau sydd ynghlwm.
Fel arfer mae’r Comisiwn Elusennau yn gofyn am 3 ymddiriedolwr daliannol ond does dim uchafswm nifer. Fel arfer nid oes gan ymddiriedolwyr daliannol unrhyw bwerau rheoli ond, os nad yw’r ddogfen lywodraethu'n atal hynny, does dim rheswm pam na chaiff ymddiriedolwr elusen fod yn ymddiriedolwr daliannol hefyd.
Ymddiriedolaeth elusennol
Ymddiriedolaethau at ddibenion elusennol yw’r ymddiriedolaethau hynny yr ystyrir eu bod mor werthfawr a phwysig i’r gymuned fel eu bod yn cael eu trin yn arbennig o ffafriol, yn cynnwys gostyngiadau treth a rheolau cyfreithiol mwy hyblyg sy’n ymwneud â’u hyd a’r dosbarth o fuddiolwr. Rheoleiddir ymddiriedolaethau elusennol gan y Comisiwn Elusennau (CE) ac i raddau llai gan yr Uchel Lys. Mae'r brif ddeddfwriaeth i’w chael yn Neddfau Elusennau 1992 a 1993 ond mae’n debyg y disodlir y rhain gan Ddeddf Elusennau newydd.
I fod yn elusennol, rhaid i ymddiriedolaeth gael amcanion sy'n gwbl elusennol sef, ar hyn o bryd, amcanion ar gyfer lliniaru tlodi, hyrwyddo addysg, hyrwyddo crefydd a dibenion eraill o fudd i’r gymuned. Mae’r amcanion hyn yn dyddio’n ôl i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601, cawsant eu codeiddio gan yr Arglwydd Macnaghten yn 1891 a'u datblygu’n helaeth gan gyfraith achosion. Ymddiriedolaeth at ddiben yw elusen.
Yn ganolog i’r cysyniad o elusen yw darparu budd cyhoeddus yn hytrach na budd preifat. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn diffinio elusen ar sail egwyddorion budd cyhoeddus a rhestr penodedig o ddibenion elusennol.
Ymddiriedolwr elusen
Mae Adran 97(1) Deddf Elusennau 1993 yn diffinio ymddiriedolwyr elusen fel a ganlyn "… the persons having the general control and management of the administration of a charity" ac yn eu llyfryn, The essential trustee (CE3), mae’r Comisiwn Elusennau’n eu disgrifio fel, "... y bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Mae’n bosib eu bod yn cael eu galw’n Ymddiriedolwyr, yn Gyfarwyddwyr, yn Aelodau Bwrdd, yn Llywodraethwyr, neu’n Aelodau Pwyllgor. Mae Ymddiriedolwyr elusennau'n gyfrifol am gadw trefn ar reolaeth a gweinyddiaeth elusen." Yn gyffredinol, mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am weinyddiaeth briodol yr elusen yn unol â’r gyfraith, a’i ymddiriedolaethau fel y nodir yn y ddogfen lywodraethu. Eu prif ddyletswydd yw cyflawni amcanion yr elusen a rhaid iddynt ddefnyddio incwm ac eiddo'r elusen ar gyfer yr amcanion hynny'n unig. Mae eu dyletswyddau cyffredinol yn cael eu nodi mewn cyfraith gyffredin a statud.
Mae’n bwysig bod yn glir ynghylch pwy yw ymddiriedolwyr yr elusen gan y gall dryswch godi'n aml wrth edrych ar realiti gweinyddiaeth elusen. Nid yw hyn yn cael ei helpu gan y llu o deitlau a ddefnyddir i ddisgrifio’r corff ymddiriedolwyr fel y disgrifir uchod. Yn gyffredinol, mae grwp penodedig clir o unigolion yn rheoli gweinyddiaeth yr elusen, ond weithiau mae nifer o gyrff sy'n arfer rheolaeth debyg ni waeth beth yw eu teitlau. Er enghraifft, efallai y bydd gweithgor wedi newid dros amser i arfer pwerau rheoli mwy cyffredinol fel y gellir ystyried ei aelodau’n ymddiriedolwyr yn unol â’r diffiniadau uchod. Gall hyn ddigwydd hefyd pan fydd prif weithredwr yn dod i arfer rheolaeth dros y corff ymddiriedolwyr – mewn cwmni elusennol byddai’r unigolyn hwn yn cael ei ystyried yn Gyfarwyddwr Cysgodol yn unol â Deddf Cwmnïau 1985, adran 714(2).
Gweler y diffiniadau o Ymddiriedolwyr Daliannol ac Ymddiriedolwyr Gwarchod isod.
Ymddiriedolwr gwarchod
Gellir ystyried yr ymddiriedolwyr hynny sy’n rhedeg yr elusen yn ymddiriedolwyr rheoli - ni ddylid drysu'r rhain gydag ymddiriedolwyr gwarchod neu ddaliannol. Mae gan gwmni elusennol bersonoliaeth gyfreithiol benodol ac, o'r herwydd, mae'n gallu dal eiddo a chreu contract yn ei enw ei hun. Nid dyma’r achos gydag ymddiriedolaethau elusennol a chymdeithasau anghorfforedig lle mae’n rhaid i ymddiriedolwyr unigol ymgymryd â’r rolau a’r trafodion hyn.
Corff corfforaethol yw ymddiriedolwr gwarchod sy’n dal buddsoddiadau a thir ar ran elusen dan bwerau Deddf yr Ymddiriedolwr Gwladol 1906, adran 14. Fel arfer hwn fydd yr Ymddiriedolwr Gwladol, y Gwarcheidwad Swyddogol dros Elusennau neu ryw gorff corfforaethol arall megis banc, cwmni yswiriant neu awdurdod lleol. Mae ganddynt hawl i godi ffioedd ac er bod gan elusen bwer cyffredinol i benodi gwarcheidwad, rhaid i’r ddogfen lywodraethu gynnwys pwer penodol sy’n rhoi hawl i dalu.
Mae ymddiriedolwyr gwarchod wedi’u cyfyngu i ddal teitl cyfreithiol yr eiddo, derbyn incwm o asedau a thalu’r incwm i'r elusen. Rhaid iddynt weithredu ar gyfarwyddiadau ymddiriedolwyr yr elusen ac os bydd y cyfryw gyfarwyddiadau’n arwain at dorri ymddiriedaeth, ymddiriedolwyr yr elusen sy’n atebol (yn wahanol i ymddiriedolwyr daliannol – gweler isod). Ond, os bydd ymddiriedolwr gwarchod yn gweithredu y tu allan i delerau’r cytundeb gyda'r elusen, hwy fydd yn atebol am unrhyw dorri ymddiriedaeth. Ar wahân i’r gweithgareddau uchod, nid oes gan y gwarcheidwad unrhyw bwer i weithredu gyda golwg ar reolaeth yr elusen. Er mwyn disodli ymddiriedolwr gwarchod rhaid cael gorchymyn gan y Llys neu'r Comisiwn Elusennau dan adran 4(1)(a) Deddf 1906.